29.1.07

Cymru Annibynnol Sosialaidd

Diolch yn fawr iawn i Bethan Jenkins am rhoi sylw i'r wefan yma ar ei blog. Hi sydd ar frig rhestr ymgeisyddion Plaid Cymru yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol. Dwi'n siwr y bydd Bethan yn gwneud Aelod Cynulliad rhagorol.

Rwyf newydd ddod ar hyd i flog ar Annibyniaeth i Gymru sydd yn nodi fy mod i'n un o aelodau Plaid sydd yn blogio am annibynniaeth ac yn cefnogi'r cysyniad o annibyniaeth. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, Annibyniaeth yw un o amcanion Plaid a Cymru X- mudiad Ieuenctid y Blaid.

Yn fy marn i, dylem gofleidio'r drafodaeth ar annibynniaeth yn yr un modd ag y mai'r SNP yn ei wneud yn yr Alban- h.y mewn modd hyderus, gobeithiol. Mae Cymry fel pobl yn aml iawn yn llawer rhy negyddol am ein gallu fel Cenedl, ac mae e'n orfodol i ni fel Plaid ceisio meithrin hyder y bobl, ac ymarfer ein prif dadleuon o blaid Annibyniaeth yn llawer fwy aml.

Rwyf yn cefnogi annibynniaeth i Gymru oherwydd rwy'n credu dylsem cael yr hawl i lywodraeth ein hun fel gwlad, a'r hawl i ddewis i beidio dilyn penderfyniadau 'Prydeinig' tro ar ol tro. Rydym o dan meddiant Lloegr o hyd, a dylsem ni cael yr hawl i ddewis dyfodol o hunan lywodraeth o fewn Ewrop- i sefyll law yn llaw gyda gwledydd eraill.

Ar lefel personol, (a byddai nifer yn anghytuno, mae'n sicr!) rwyf yn cefnogi annibyniaeth oherwydd rwyf am gofleidio'r cyfle o greu Cymru gwell- Cymru sosialaidd, gweriniaethol. Ni fedrwn newid cymdeithas er gwell tra ein bod yn rhan o Undeb sydd yn amharu ar ein gallu i dyfu ac i ddatblygu fel gwlad.

Mae'n rhaid i ni gael trafodaeth sydd yn cyfleu balans o farn am annibyniaeth, ac sydd yn cynnwys dadleuon teg a ffeithiol yn hytrach nag ein bod yn dod yn rhan o ymgais negyddol Llafur Newydd o ofni pleidleiswyr am ddyfodol Cymru annibynnol-o ddiffyg adnoddau, o botensial methiannau, a'n anallu i rheoli ein gwlad ein hun.

Un peth sy'n sicr, byddai Cymru annibynnol yn medru arwain gwlad yn well o lawer na Tony Blair a'i debyg sydd wedi ein arwain mewn i rhyfel anghyfreithlon yn Irac, sydd yn rhan o broblem mawr y 'cash for peerages' ar hyn o bryd, ac sydd yn hybu polisiau adain de, Toriaidd.

Oes, mae angen mwy o ymchwil ar sut y byddai Cymru Annibynol yn edrych ac yn cael ei weithredu, ond mae'r posibiliad o ymchwil o'r fath yn gyffroes, a'r ymgyrch dros Gymru Annibynol yn gadarnhaol.

24.1.07

CymruX ac ymgeiswyr Plaid yn cefnogi annibyniaeth

Newydd ddod ar draws y darn yma ar wefan Cymru X. Braf iawn gweld Annibyniaeth wedi ei nodi yn glir fel un o prif bolisiau Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru.



Bethan Jenkins yw trefnydd ieuenctid Cymru X ar hyn o bryd ac sydd yn gyfrifol am y wefan, ac hi hefyd yw ymgeisydd 'Rhanbarth Gorllewin De Cymru' Plaid Cymru ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007.

Ond nid Bethan yw'r unig ymgeisydd sy'n hyrwyddo'r achos yn agored dros annibyniaeth i Gymru. Dyma rhai dolenni at wefannau'r goreuon:

David Thomas - Ymgeisydd Maldwyn Plaid Cymru
Sion Aled - Ymgeisydd Wrecsam Plaid CYmru
Mark Jones - Ymgeisydd Dyffryn Clwyd Plaid Cymru

22.1.07

Llyfrau ar annibyniaeth i Gymru a gwledydd bychain eraill

Dau lyfr sy'n werth darllen i unrhyw un sydd eisiau syniad ehangach o sut fyddai Cymru annibynnol yn gallu bod.

Pe Bai Cymru'n Rhydd - Gwynfor Evans.
Llyfr bychan, darllenadwy a handi iawn gan un o brif genedlaetholwyr Cymru, y diweddar Gwynfor Evans. Cyhoeddwyd hi ar drothwy annibyniaeth i wledydd y Baltig yn 1991 ac mae'n gyflwyniad gwych i'r hyn gallai Cymru fod ... a sut mae Prydeindod yn ein dal yn ôl. Dyma'r math o lyfr sydd mawr ei angen heddiw - trueni nad oes mwy o'r math yma ar gael. Hanfodol a darllenadwy.

The Breakdown of Nations - Leopold Kohr
Awstriad o ran genedigaeth ond Cymru-garwr a darlithydd yn y Brifysgol yn Aberystwyth yw Leopold Kohr (pam nad oes plac i'w hen dy yn Baker St yn y dre?).
Cyhoeddwyd y llyfr yn 1957 ac roedd o bell o flaen ei hamser. Mae'n rhoi annibyniaeth (a chyd-ddibyniaeth rhynwgladol) Cymru o fewn ei chyd-destun Ewropeaidd sef cyfandir o genhedloedd bychan. A dweud y gwir, mae'n syfrdannol mor debyg mae un o'r mapiau yn y llyfr i fap gwleidyddol o Ddwyrain Ewrop heddiw... ac mae cenhedloedd bychain Gorllewin Ewrop ar y trywydd iawn. Er fod y teitl braidd yn gamarweiniol - the breakdown of states dylse fo fod efallai - mae'n lyfr deallusol (ond hawdd ei ddarllen) gwerthfawr iawn. Mae'n dangos mor ffals yw dadleuon a moesoldeb y cenedlaetholwyr Prydeinig.
Masaryk

21.1.07

32% o blaid annibyniaeth.

Diddorol gweld arolwg yn y Wales on Sunday heddiw, yn datgan fod 32% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth a 49% yn erbyn.

Holwyd 500 o bobl dros y ffôn - 125 yr un yn y gogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain. Mae angen bod yn ofalus pan yn dadansoddi'r ffigyrau, gan nad ydi'r trawsdoriad poblogaeth a ddefnyddiwyd yn wyddonol iawn o'i gymharu ag un y BBC ddechrau'r wythnos.

Er hyn, mae'n ymddangos fel petai'r gefnogaeth i annibyniaeth yn codi, a hyn heb unrhyw ymgyrch cadarn gan unrhyw blaid neu fudiad yng Nghymru. Mae'r ffigwr yn draddodiadol wedi bod rhwng y 10-15% o blaid annibyniaeth, felly mae 20%-32% yn gynnydd mawr, mewn cyfnod cymharol fyr ers datganoli. Dangosodd arolwg yn 2003 mae dim ond 14% oedd o blaid annibyniaeth, ac ym 1999 roedd y ffigwr yn 9.9%.


19.1.07

Plaid Cymru

Er bod aelodau amlwg Plaid Cymru yn bod yn ofalus iawn ar hyn o bryd o ran hyrwyddo'r syniad o annibyniaeth i Gymru yn agored, braf iawn yw gweld y canlynol ar eu gwefan:

Cefnogwn yn llawn Adroddiad y Comisiwn Richard sy’n argymell cynyddu pwerau’r Cynulliad, i gynnwys pwerau deddfu cynradd ar faterion wedi eu datganoli – fel a geir yn Senedd yr Alban.

Fodd bynnag, ein nod cyfansoddiadol hir dymor ydi sicrhau annibyniaeth i Gymru yn Ewrop. Byddai cefnogaeth pobol Cymru drwy refferendwm, gan olygu statws lawn i Gymru oddi fewn i’r Gymuned Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig.

Mae Helen Mary Jones AC hefyd yn nodi'r dyhead yma'n glir ar ei gwefan:

Wedi etholiadau 2007, gallwn ddefnyddio'r Cynulliad Cenedlaethol, er ei wendidau, i wneud gwahaniaeth mawr i fywyd pobl Cymru. Gallwn weddnewid y Cynulliad i fod yn Senedd go iawn, a gallwn ddefnyddio'r Senedd fel llwyfan i adeiladu hyder pobl Cymru ar y llwybr i annibyniaeth.

Ond mae angen gwneud mwy na chrybwyll y mater ar wefannau'r Blaid yn unig. Mae angen bod yn agored a hyderus, bod yn rhagweithiol, a sicrhau fod annibyniaeth ar yr agenda wleidyddol yma yng Nghymru!

18.1.07

Rhoi y pwnc ar yr agenda wleidyddol!

Dechreuwyd y blog yma mewn ymateb i bôl piniwn y BBC a ddangosodd fod 20% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth. Mae hyn er gwaetha'r ffaith nad oes unrhyw blaid yng Nghymru heddiw yn dadlau'r achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, ac er gwaetha'r ffaith nad oes gan Gymru wasg gynhenid Gymreig, fel sydd yn yr Alban, a'n bod yn cael ein boddi dan don o Brydeindod gan y wasg unoliaethol yn ddyddiol.

Er hyn oll, mae 1 o bob 5 person yng Nghymru yn cefnogi annibyniaeth. Mae cyfle gwirioneddol i chwyddo'r gefnogaeth yma, os gallwn ni wneud yr achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, a rhoi y pwnc ar yr agenda gwleidyddol.

Pwysleisiwyd y ffaith nad oes unrhyw ymgais wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gyflwyno'r achos i bobl Cymru yng nghanlyniadau chwiliad syml yn Google. Pan fydd rhywun yn chwilio am Cymru Annibynol , dim ond 13 canlyniad sydd. Y mwyafrif helaeth yn ymwneud a’r ‘Independent Wales Party, sydd erbyn hyn wedi marw, a cwpwl yn dangos ambell i drafodaeth difyr ar faes-e. Dyma gyfanswm y drafodaeth sy’n bodoli yn y Gymraeg ar y we-fyd-eang ar y mater.

A dyma gychwyn felly ar ehangu’r drafodaeth...