30.10.07
Prydain yn Marw
Gyda'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn edrych o ddifri ar EVEM (Pleidleisiau Seisnig i ddeddfau Seisnig) mae'r gath allan o'r cwd.
Maent wedi sylwi fod mwy i'w ennill trwy apeilio at Seisnigrwydd y Saeson yn hytrach nag at flanegellu bloedd arall o Brydeindod allan o gorff hanner marw. Bydd y deinamig dros Senedd i Loegr yn cynyddu ar raddfa uwch, a bydd y Cymry a'r Albanwyr yn edrych ar eu gilydd a meddwl, beth yw pwynt y busnes Prydeindod yma?
Gyda Dai Davies AS Blaenau Gwent yn dweud peth hollol gall, sef fod dim ond angen 22 sedd San Steffan ar Gymru os gawn ni fwy o bwer, mae echel gwleidyddiaeth Cymru yn symud at Gaerdydd.
Deng mlynedd wedi'r refferendwm a marwolaeth yr arch-Frit, George Thomas - Lord Tonypandy, mae'n dda cael meddwl y byddai'r hen grafwr yn troi yn ei fedd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi ei deall hi - mae Prydeindod yn marw, jyst mater o pa mor araf caiff y peiriant cynnal bywyd ei ddiffodd yw hi nawr a sdim ots beth fydd Hain yn dweud.
Mae cynlluniau Rifkind a'r Ceidwadwyr dros gael Grand Committee yn rhwym o fethu - unwaith fydd y Saeson wedi dechrau meddwl am ddatganoli i Loegr fel posibiliad realistig, ni fydda nhw mor ddiasgwrn cefn a'r Celtiaid, a derbyn rhywbeth mor wan.
Byddant am Senedd i Loegr yn weddol sydyn. Mae'r Ceidwadwyr wedi deall fod modd iddynt gael mwy o bleidleisiau a seddi a grym drwy gefnogi Seneddau cenedlaethol i'r Tair Gwlad na thrwy gadw Prydeindod. Gellid cael 3 senedd gyda Ceidwadwyr mewn grym ym Mhrydain yn hytrach nag un senedd heb yr un.'
9.10.07
Rhoi Cymru'n Gyntaf
Os oes un llyfr sydd angen i bob cenedlaetholwr (neu unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru i ddweud ei gwir) ei ddarllen, yna llyfr newydd Dr Richard Wyn Jones yw honno.
Mae 'Rhoi Cymru'n Gyntaf - Syniadaeth Plaid Cymru' yn wirioneddol wych. Rhwydd i'w ddarllen, wedi ei hysgrifennu'n ddifyr ac yn gryno. Llu o gymariaethau a chyflwyniadau i syniadaeth wleidyddol gyfoes ac mae'n rhoi cyd-destun i genedlaetholdeb Cymreig heb y rhagfarn sy'n dod o'r Chwith Brydeinig a theip Eric ty-haf-yng-nghymru Hobsbawm.
Gwnewch ffafr a'ch hun - prynwch gopi. Hanfodol! Gobeithio cawn ni gyfieithiad Saesneg yn fuan - mae'n gyfraniad gwerthfawr i astudiaeth o wleidyddiaeth a hanes Cymru ac i'n dealltwriaeth o Gymru heddiw.
Mae Dr Jones hefyd yn gwneud y sylw amlwg i unrhyw genedlaetholwr - sef fod pawb yn y bôn yn genedlaetholwyr - boed hynny yn genedlaetholwyr Cymreig neu Brydeinig.
31.8.07
Lle mae Vaclav Klaus Lloegr?
"Brown is pushing for a new sort of patriotism uniting English, Scots, and Welsh, Afro-Caribbeans and Asians, Muslims, Christians, and all other faiths. This new patriotism would be constructed around loyalty to British institutions, and especially to what he calls 'British values'."
"So far, the resemblances between us and Czechoslovakia in the 1990s are striking, if never total. But now comes the most delicate question. Does England have a Klaus? Could he already be leading a party? The role of Klaus is implicitly offered to David Cameron, the new leader of the Conservatives. So far, though, it does not look as if he has the power hunger, or the political imagination, to accept it."
19.8.07
Taith i Loegr?
Beth fyddwch chi'n wneud ar 15 - 15 Medi? Yn ogystal a dathlu diwrnod Glyndwr ar yr 16eg a deng mlwyddiant fot Ie yn Refferendwm 1997, beth am fynd draw i gynhadled 'In My Heart' plaid yr English Democrats yn Caerlyr?
Onid yw'n hen bryd i genedlaetholwyr Cymreig ddechrau siarad gyda chenedlaetholwyr Seisnig? Does dim angen i ni gredu propaganda ddu y cenedlaetholwyr Prydeinig fod cenedlaetholdeb Seisnig yn reddfol hiliol. Wedi'r cyfan, mae Gordon Brown, fel y BNP, yn credu yn y genedl-wladwriaeth Brydenig ac yn arddel yr Union Jack, felly nid Seisnigrwydd yw'r broblem.
Beth amdanni. Gallem holi os gall criw ohonom fynychu'r gynhadledd fel sylwadwyr a mwynhau'r daith. Bydd yn gyfle da i wneud cysylltiadau. Gallwn hefyd edrych ar y posibilrwydd o fynd i gynhadledd y Campaign for an English Parliament. Does dim i'w golli wrth siarad.
Mae ganddom ni a'r Saeson yr un gelyn - Prydeindod a chenedlaetholdeb Brydeinig y Blaid Lafur. Beth amdanni?
English Democrats: www.englishdemocrats.org.uk
The CEP: www.thecep.org.uk
4.8.07
Rhaid gofyn!
OURS IS TO REASON WHY
25.7.07
Pleidleisiwch dros Annibyniaeth i Gymru nawr!
17.7.07
yr Angen am Ymgyrch
O dan drefn lle mae cenedlaetholwyr yn gorfod clymbleidio gydag unoliaethwyr, o'r naill ochor i'r sbectrwm neu o bob ochr o'r sbectrwm, bydd cenedlaetholdeb sydd wedi ei gyfyngu i'r achos etholiadol yn unig yn methu, gan na fydd dewis gan genedlaetholwyr ond cyfaddawdu eu cenedlaetholdeb er mwyn plesio eu cynghreiriaid unoliaethol.
Er gwaethaf galwadau ar fy mlog, ar Maes-e , yn y Cymro a'r Western Mail am ymgyrch dros annibyniaeth allbleidiol prin fu'r ymateb.
A oes yna ddwsin o Gymry gwladgarol sy'n fodlon cyd drafod y posibilrwydd o godi Ymgyrch dros Annibyniaeth?
Pe bai lle ac amser yn cael ei drefnu, a oes modd cael gwarant trwy'r sylwadau y daw dwsin, o leiaf, i'r cwrdd?
21.5.07
Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012
Nawr yw'r amser i ddechrau ymgyrchu dros dim Olympaidd i Gymru erbyn 2012. Mae'r SNP yn dal dychymyg pobl a bydd hyn yn dangos mor llesg a dibwrpas yw Llafur. Llywodraethu'n gall ac yn deg yn y Cynulliad ond cofio pwysigrwydd symboliaeth a chreu naratif genedlaethol gref - fel 'na mae lladd y Blaid Lafur.
Cefnogwn dîm Olympaidd i Gymru erbyn y flwyddyn 2012.
28.4.07
6.4.07
Y Blaid Werdd o blaid annibyniaeth i Gymru
Rwy'n cydweld gyda Rhodri Griffiths o'r Blaid Werdd na ddylai unrhyw 1 plaid wleidyddol gael monopoli ar annibyniaeth. Dwi hefyd yn cytuno y byddai'n syniad gwych sefydlu platfform amlbleidiol gyda Phlaid Cymru ac unrhyw wleidyddion annibynnol eraill mewn Llywodraeth leol neu yn y Cynulliad, ac unrhyw aelodau o'r pleidiau gwleidyddol Prydeinig sydd yn cefnogi annibyniaeth. Dylid hefyd wahodd unrhyw fudiadau neu gymdeithasau yng Nghymru sy'n cefnogi annibyniaeth i fod yn rhan o'r drafodaeth.
Dyma beth oedd gan Rhodri Griffiths i'w ddweud:
Rydym yn y Blaid Werdd o blaid annibyniaeth i Gymru, ond yn bersonol, mae'n well gennyf y gair "ymreolaeth" neu "autonomy" yn hytrach na "annibyniaeth".Mae'n wir fod Plaid Werdd yr Alban yn cefnogi and yn ymgyrchu dros annibyniaeth. Yn wir roedd Mark Ballard MSP wedi helpu sefydlu y "Scottish Independence Convention" gyda'r Blaid Sosialydd yr Alban yn ddiweddar. Cafodd Mark tipyn o jobyn i berswadio'r SNP i ymuno a'r clymblaid yma dros annibyniaeth! Mae tueddiad gyda Plaid Cymru ac yr SNP i feddwl fod ganddynt monopoli ar annibyniaeth... Hoffwn i wahodd Plaid Cymru - ac efallai Forward Wales/Cymru Ymlaen, os maent dal yn fodoli - i ymuno a ni mewn clymblaid debyg yma yng Nghymru.Mae'n wir hefyd fod - ar hyn o bryd - mae Plaid Werdd Cymru "yn swyddogol" yn rhanbarth o'r Blaid Werdd Cymru a Lloegr.Yn yr Alban mae'r Blaid Werdd yn hollol annibynnol. Dwi ddim yn hapus iawn gyda'r sefyllfa yma ond eto mae rhaid inni fod yn bragmateg - heb help ariannol oddiwrth cefnogwyr yn Lloegr byddwn llawer tlotach yma. Gobeithio, gyda llwyddiant yn etholiad y Cynulliad, bydd twf sylweddol yn ein aelodaeth ac well siawns inni troi'n annibynnol o'r safbwynt ariannol. (Cofiwch fod Plaid Werdd Cymru yn rhan o mudiad byd-eang.) Yn Ulster cafodd y Blaid Werdd llawer o help gan Comhatlas Glas - Plaid Werdd yn y Gweriniaeth- yn ymgyrch llwyddiannus Brian Wilson yn ddiweddar.Mae rhaid i fi bwysleisio ein bod ni ym Mhlaid Werdd Cymru yn hollol annibynnol lle mae bolisiau yn y cwestion. Mae gyda ni ein cynhadleddau ac ein maniffesto - sy'n cael ei drafftio gan aelodau yma yng Nghymru.Gyda'r llaw, byddwn yn lawnsio ein maniffesto yng Nghaerdydd wythnos nesaf (Dydd Iau yn yr Eglwys Norweieg am 9.30). Croeso mawr i chi i ymuno a ni!Rhodri Griffiths
Ymgeisydd rhif 1 Plaid Werdd Cymru ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru.
31.3.07
Amserlen Annibyniaeth
Da gweld yn Golwg yr wythnos hon fod Alun Ffred, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon, yn awgrymu ei bod hi'n bryd creu amserlen ar gyfer annibyniaeth i Gymru. Hynny yw esbonio beth fyddai'r camau tuag at hynny a beth fyddai'r camau hynny yn ei olygu yn ymarferol.
O'r diwedd! dwi di credu ers hydia bod angen gwerthu annibyniaeth mewn modd llawer mwy cadarn a chadarnhaol. Bron nad ydi o wedi bod " the love that dare not speak it's name" ym meddylfryd y Blaid dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny nid yn unig wedi bod yn fel ar fysedd y wasg a'i gelynion gwleidyddol, ond wedi cyfleu'r argraff i'r etholwyr bod yna rhywbeth anonest a shifty iawn yn perthyn i'r blaid.
Mae angen tanlinellu realiti pethau fel ag y mae wrth gael ein rheoli o Lundain: lefelau GDP ymhlith yr isaf yn Ewrop, lefelau iechyd ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, diffyg buddsoddi affwysol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gor-ddibyniaeth enfawr ar y sector gyhoeddus, problemau tai fforddiadwy a digartrefedd,diffyg cyfranogiad go iawn mewn bywyd cyhoeddus, cael ein tynnu i mewn i ryfeloedd anghyfreithlon a gorfod bod yn rhan o wariant gwallgof o £50 biliwn er mwyn adnewyddu Trident, mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd.
Yna, mae angen dadlau'n eofn mai annibyniaeth fyddai'n gwella hynny drwy alluogi'r canlynol i ddigwydd dros gyfnod o amser, er enghraifft:Mae'r dadleuon i gyd o'n plaid. Ond, wrth gwrs mae angen arweinydd charismataidd, cadarn ac eofn i'w cyflwyno. Pryd mae Adam Price yn dod nol o Lundain?
- rheolaeth dros ein dwr a'n holl adnoddau naturiol- datblygu Cymru fel arloeswr rhyngwladol mewn ynni gwyrdd
- Addasu'r system drethi er mwyn ffafrio cwmniau bychain teuluol
- Datblygu sgiliau entrepeneuraidd ymhlith plant o oed cynnar iawn er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu gweithlu fydd eisiau cychwyn busnesau eu hunain a llenwi'r gofod hwnnw sy'n bodoli yn y sector breifat yng Nghymru ar hyn o bryd
- Arbed arian wrth wario llai ar amddiffyn- Prydain yn gwario 2.5% o'i chylideb ar amddiffyn- siawns y galla ni ddilyn esiampl Iwerddon sydd mond yn gwario 0.7% o'i chyllideb ar amddiffyn. Yn gysylltiedig a hyn, bydd angen esbonio sut fath o lu amddiffyn fyddai'n datblygu yma.
- Datblygu marchnadoedd newydd gyda gwledydd bychain cyffelyb. E.E Mae'r SNP yn son am greu "The Arc of Prosperity" drwy gydweithio ag Iwerddon, Norwy, Gwlad yr Ia, a Denmarc, ac fe allai Cymru hefyd fod yn rhan o symudiad felly.
20.3.07
Creu'r Agenda
Un o'r pethau sydd wedi fy siomi ar yr ochor orau am wleidyddiaeth ein gwlad yn ystod y cyfnod diweddar yw'r ffordd mae'r canran o'r Cymry sydd yn cefnogi annibyniaeth wedi cynyddu, er gwaetha'r ffaith na fu annibyniaeth ar yr agenda. Cyn refferendwm 1997 roedd pôl gan y BBC yn dangos 11% o'r bobl yn cefnogi annibyniaeth. Yn ôl adroddiad Richard yn 2003 roedd y cyfanswm wedi cynyddu i 14%. Yn ôl pôl arall gan y BBC ym mis Ionawr eleni roedd y ffigwr wedi cynyddu eto i 20%. Nis allwn ond dychmygu be fyddai'r canran o gefnogaeth pe byddai annibyniaeth wedi bod yn ganolog i'r agenda gwleidyddol yn ystod yn ddeng mlynedd diwethaf.
Yn ei erthygl mae Johnny yn awgrymu mae da o beth byddid i'r Blaid gosod annibyniaeth yn ganolog ar yr agenda gwleidyddol - rwy'n cytuno'n llwyr, ond eto yn amau os digwyddith y fath beth, yn y tymor byr o leiaf. Nid beirniadu'r Blaid yw gwneud y fath sylw ond ymateb i wirioneddau gwleidyddol ein dydd.
Gyda chymaint i'w ddweud am bethau "bara menyn" megis iechyd, addysg a threfn gyhoeddus yn etholiadau'r cynulliad; ffolineb byddid i unrhyw blaid wleidyddol troi oddi wrth y pynciau hyn er mwyn trafod rhywbeth nad yw, ysywaeth, ar yr agenda cyfredol.
Yn y dyddiau sydd ohoni prin fod pleidiau gwleidyddol yn gyfrifol am osod pwnc newydd ar yr agenda. Grwpiau ffocws sydd yn gosod yr agenda a grwpiau pwyso sydd yn gosod y ffocws. Mae'n wirionedd na ellir dadlau ag ef mae'r rheswm pam bod pynciau glas mor bwysig i'r holl bleidiau yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol yw oherwydd bod y grwpiau pwyso ar lesni wedi effeithio, yn llwyddiannus iawn, ar y grwpiau ffocws.
Yr unig fodd i osod annibyniaeth ar agenda gwleidyddol Cymru yw trwy i'r rhai ohonom sy'n credu ei fod yn bwnc pwysig ei osod yno trwy ffurfio grŵp pwyso all bleidiol ein hunnain.
Ni fydd creu'r fath grŵp yn dasg hawdd. Ceisiwyd creu grwpiau tebyg yn y gorffennol ond eu bod wedi eu boddi o dan ddylanwad ochor "orffwyll" cenedlaetholdeb. Bydd nifer o gefnogwyr y Blaid yn gweld bodolaeth grŵp o'r fath yn ymosodiad ar y Blaid, tra bydd cefnogwyr annibyniaeth yn y pleidiau eraill (mae'r fath bobl yn bod) yn gweld ymgyrch o'i fath yn ymgyrch o blaid y Blaid. Mae nifer o genedlaetholwyr yn amlwg mewn ymgyrchoedd eraill megis CyIG, CND, Greenpeace ac ati, bydd ceisio cefnogi a chynnal Ymgyrch Dros Annibyniaeth hefyd yn ormod o faich iddynt. Er hynny credaf mai'r unig fordd ymarferol o osod annibyniaeth ar agenda gwleidyddol Cymru yw trwy ffurfio Ymgyrch Dros Annibyniaeth all bleidiol. Byddwn yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau gan gefnogwyr y blog yma ar sut i ffurfio ymgyrch, effeithiol, o'r fath.
14.3.07
Byddin Cymru
Holodd Williams, 'sawl llong awyren (aircraft carrier) fyddai gan Gymru annibynnol?' Yn ei erthygl mae Jobbins yn ceisio amlinellu sut fath o luoedd arfog fyddai gan Gymru petai hi'n wlad annibynnol.... ac yn ateb cwestiwn David Williams.
Nid yw'r erthygl ar-lein, ond gellir prynu Cambria mewn siopau llyfrau
Cymraeg a mewn siopau llyfrau eraill gwerth eu halen!
28.2.07
Dolenni Diddorol - Yr achos dros Annibyniaeth i'r Alban
Dadleuon da yma dros annibynniaeth i'r Alban, y rhan fwyaf yn berthnasol i Gymru hefyd.
A Case for Independence Part 1 (Yr economi)
A Case for Independence Part 2 (Lleoliad grym)
A Case for Independence Part 3 (Ymdeimlad + perthynas â Lloegr)
12.2.07
Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd - Gwenllian Lansdown
Mae’r tebygrwydd hynny hefyd yn egluro honiadau bondigrybwyll, sarhaus a rhagfarnllyd Peter Hain ynglyn ag annibyniaeth. Coleddu Prydeindod, fel pe bai’n rhyw endid niwtral, yw’r ffasiwn ddiweddaraf ymysg gwleidyddion Llafur Newydd. Ond mae Prydeindod fel emblem, fel cyfundrefn ac fel cysyniad yn prysur edwino. Fel hynny y dylai pethau fod. Mae’r cysyniad o Brydeindod wedi ei seilio ar berthynas anghymesur ac anheg. Mae dadleuon Hain yn amlwg yn ddibynnol ar y syniad fod annibyniaeth yn gyfystyr â thorri ffwrdd, arwahanrwydd neu gulni gwleidyddol. Ond anwiredd yw hynny. Mae pob gwlad annibynol wedi ei phlethu mewn perthynas gyda chenhedloedd annibynol eraill boed hynny’n gymdeithasol, economaidd neu’n hanesyddol. O’r herwydd megir perthynas o gyd-ddibyniaeth ond honno’n gyd-ddibyniaeth wirfoddol.
Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd gan roi llais cryf i Gymru, fel cenhedloedd llai eraill, ar faterion rhyngwladol o bwys. Byddai annibyniaeth yn ein rhyddhau o hualau seicolegol canrifoedd o orthrwm gwleidyddol a fyddai’n ein galluogi i ryddhau ein potensial fel cymdeithas ac yn adfer ein synnwyr o hunan-barch.
Yn y cyfamser, i Blaid Cymru, mae etholiad hollbwysig ar y gorwel – rhan o’n neges ni fydd darbwyllo pobl Cymru mai diwedd taith gyfansoddiadol a hanesyddol yw annibyniaeth sy’n ddibynnol ar ewyllys y genedl. Yn y cyfamser, rhaid gofyn sut yn union y gellir cyfiawnhau ein dibyniaeth bresennol mewn oes ôl-drefedigaethol o ryddid? Pam fod yn rhaid i ni amddiffyn y ‘status quo’? Pam fod yn rhaid i ni hepgor ein hunan-barch?
Gwenllian Lansdown,
Ymgeisydd Plaid Cymru, Rhanbarth Canol De Cymru
11.2.07
Adeiladu hyder ein pobol gam wrth gam - Dafydd Iwan
Pobol Cymru fydd yn penderfynu hynny yn y pen draw, drwy refferendwm, ac fel hynny y dylai fod. Yn y cyfamser, mae gennym ni yng Nghymru lawer o waith i'w wneud i gyrraedd hyd yn oed y fan lle mae'r Alban heddiw. Sefydlu Senedd gyflawn gyda phwerau deddfu cynradd yw'r nod pwysig nesaf i'w gyflawni. Does dim pwrpas camarwain pobol i feddwl fod "annibyniaeth" ar gynnig yn yr etholiad ym mis Mai. (Ac yn sicr does dim pwrpas inni ddadlau ymysg ein gilydd am ystyr geiriau!)
Ein gwaith ni ym Mhlaid Cymru yw adeiladu hyder ein pobol gam wrth gam, a sefydlu Senedd ddeddfwriaethol yw'r cam holl-bwysig ar y daith yr ydym wedi ei throedio ers 1925. Yr hyn sy'n rhoi gwir foddhad imi yw gweld agweddau pobol - a phleidiau - Cymru yn newid o flwyddyn i flwyddyn. A phan ddaw hi'n amser i gynnal refferendwm ar annibyniaeth, does gen i ddim amheuaeth o gwbwl na fydd pobol Cymru yn pleidleisio yn gadarnhaol o'i blaid.
O ran y gair ei hunan, mae gen i'r un teimladau cymysg a fynegwyd gan Gwynfor Evans. Mewn gwirionedd, does yna'r un wlad annibynnol yn y byd. Yr ydym oll yn gyd-ddibynnol, ac mewn partneriaethau o wahanol fathau. Y peth sylfaenol bwysig yw ein bod yn rhydd i benderfynu ar ba delerau yr awn i bartneriaeth gyda gwledydd eraill. Ac i wneud hynny, rhaid bod, a defnyddio'r term technegol, yn "annibynnol". Ond i bwrpas fy nghaneuon, byddaf fi'n dal i ddefnyddio'r gair yr wyf wedi ei ddefnyddio erioed, sef "RHYDDID"!
Rhagom i'r Gymru Rydd!
Dafydd Iwan
Llywydd Plaid Cymru
9.2.07
Annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd
Rwy'n croesawu'n gynnes y cyfle hwn i gymryd rhan yn y drafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Mae anghenion Cymru fel cenedl yn cael eu trafod fel nas gwelwyd erioed o'r blaen wrth i baratoadau at yr Etholiad Cyffredinol Cymreig ym mis Mai fynd yn ei blaen. Mae datganoli, hyd yn oed yn ei ffurf bresennol, yn sicrhau cyfle i drafod blaenoriaethau Cymru mewn cyd-destun Cymreig, ond mae'r pwerau yn annigonol, ac arweiniad Rhodri Morgan a'i weinyddiaeth Lafur yn ofidus.
Fel plaid sydd o'r farn fod Cymru fel cenedl angen pob pŵer posib i ffynnu, annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd yw ein nod cyfansoddiadol tymor hir. Yn ogystal a gwella bywydau pobl Cymru, mae'n iawn i Gymru ymuno â'r gymuned fyd-eang o genhedloedd.
Gam wrth gam fu ein hagwedd erioed tuag at newid cyfansoddiadol, a gan mae'r bobl sy'n sofran, bydd refferendwm ar bob newid sylweddol. Gan bobl Cymru mae'r dweud olaf ar y mater.
Ein bwriad dros y bedair blynedd nesaf yw sicrhau refferendwm ar Senedd go iawn, fel bod ganddom yr hawl i ddeddfu ac amrywio trethi heb orfod gofyn caniatâd San Steffan. Heriwn y pleidiau gwleidyddol eraill i ymuno yn yr ymgyrch.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol eleni, bydd pleidiau Llundain yn chwarae gem wleidyddol gydag annibyniaeth ac yn ceisio rhannu'r mudiad cenedlaethol. Mae ein nod yn glir, ond bydd ein gwrthwynebwyr yn ceisio ei ddefnyddio yn ein herbyn. Mae'r etholiad hwn yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth go iawn a chynorthwyo i drawsnewid Cymru.
Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â hyder yng Nghymru a phobl Cymru. Mae pleidiau Llundain yn honni fod Cymru yn rhy fach ac anarwyddocaol i gael dylanwad ar y llwyfan rhyngwladol. Mae dilorni Cymru yn y fath fodd yn nawddoglyd a sarhaus. Rhaid magu hyder ein cenedl a chynnig newid er gwell i bobl Cymru. Gyda'n gilydd gallwn gyrraedd y nod.
Mae Ieuan Wyn Jones yn Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, yn arweinydd Plaid Cymru ac yn arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Pa fath o annibyniaeth?
Mae'r pleidiau pro-annibyniaeth yn Yr Alban - yr SNP, yr SSP a'r Gwyrddion - wedi llwyddo i roi annibyniaeth ar ben yr agenda wleidyddol yna ar gyfer yr etholiad nesaf. Mae na resymau amlwg pam bod hynny'n bosib. Dylwn ni yma yng Nghymru anelu i wneud yr un peth ymhen pedair blynedd. Yr unig ffordd i godi stem ar y mater ydi ymgyrchu all-seneddol yn ogystal â gwthio'r gwleidyddion i wneud safiad.
Ond yr hyn dwi am godi yma rwan ydi "pa fath o annibyniaeth?"
Efallai fod hwnna'n "neidio'r gwn" braidd ond os ydan ni am greu cefnogaeth ymhlith poblogaeth Cymru, rhaid iddyn nhw ddallt mai nid fersiwn ychydig yn well o'r hyn sydd ganddon ni fydd gweriniaeth rydd.
Rhaid iddyn ddallt, i ddefnyddio cymhariaeth James Connolly, mai nid mater o godi'r Ddraig Goch a phaentio'r bocsys post yn wyrdd ydio. Mae'n rhaid i Gymru rydd adlewyrchu'r hyn mae pobl Cymru am ei weld - cydweithredu nid y farchnad rydd, gofal nid rhyfel a rhoi'r bobl cyn y bunt.
Rydwi am weld gweriniaeth sosialaidd lle mae cyfoeth Cymru yn nwylo'r werin bobl, lle mae democratiaeth yn golygu mwy na croes bob pedair mlynedd i bleidiau sy'n dweud yr un peth a lle mae'r amgylchedd yn cael ei pharchu a'i chynnal yn lle'i rheibio gan gyfalafiaeth. Yn yr un ffordd ac y mae genna'i ffydd yng ngallu pobl Cymru i redeg eu gwlad eu hunain, mae genna'i ffydd yng ngallu gweithwyr Cymru i redeg ein diwydiant a'n gwasanaethau.
8.2.07
Rhyddid cenedlaethol sy'n ysbrydoli pobl
Rwy’n credu’n gryf ein bod a’r gallu i daclo’n problemau ein hunain yma yng Nghymru – nid oes rheswm biolegol na naturiol pam fod yn rhaid i ni fod yn ddibynnol am byth ar Loegr i wneud penderfyniadau drosom.
Mae pobloedd Slofenia, Malta neu Vanuatu, ynghyd ag amryfal wledydd annibynnol eraill sy’n llai na Chymru, yn rhannu yr un gred. Wedi’r cyfan, senedd go iawn, rymus a all ddeddfu a threthu yw’r model o lywodraeth effeithiol ym mhedwar ban byd – prin yw’r ymgyrchoedd hynny ar lawr gwlad sy’n mynnu cael bod yn gaeth i Gynulliad ddi-rym.
Rhyddid cenedlaethol sy’n ysbrydoli pobl – yng Nghymru, dim ond Plaid Cymru sy’n credu mai cenedl yw Cymru. Cysyniad arwynebol, sentimental o Gymru sy’n bodloni eraill. Taeogion sy’n mynnu darymostwng i bwerau allanol (honedig uwchraddol) a fu’n gyfrifol am ddifetha ein gwlad dros y canrifoedd. Mae eraill yn fodlon rhoi uchelgais bersonol a chul o flaen dyhead cenedl gyfan.
Mae ‘na rai, tu allan i’r Blaid, sy’n fodlon gweld Cymru fel rhanbarth neu uned, er fod Cymru’n parhau i fod ar waelod pob tabl lle mae dangosyddion iechyd a’r economi yn y cwestiwn. Siawns ein bod wedi aros yn ddigon hir i weld pa mor ffynianus yr ydym yng nghol undeb anghyfartal ac anheg Prydain Fawr?
Mae llanw amser o blaid Senedd i Gymru ac mae’r llanw’n prysur lifo i gyfeiriad Plaid Cymru. Dim ond senedd gyda phwerau deddfu a threthu fydd yn gallu trawsnewid ein heconomi, datblygu ein gwasanaethau iechyd ac addysg, bod yn gyfrifol am ein hadnoddau naturiol fel dwr, ac amddiffyn pobl Cymru rhag Lywodraeth o blaid ynni niwclear yn Llundain.
Dyna pam rwyf i’n ymgyrchu o ddydd i ddydd ar ran Plaid Cymru. Cymru rydd fydd fy Nghymru i.
Dr Dai Lloyd AC Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru
7.2.07
Sylw i'r Blog yn Golwg
Annwyl Golwg,
Rwy'n ddiolchgar i Golwg ac i'ch gohebydd am roi cyhoeddusrwydd i'r wefan newydd annibyniaeth.blogspot.com . Gobeithio y gwnaiff llu o genedlaetholwyr ymweld a chyfrannu at y drafodaeth werthfawr.
Carem, serch hynny, gywiro un camgymeriad gan eich gohebydd. Fel y gŵyr pawb, roedd Gwynfor Evans yn ymladdwr di-flino dros Gymru, ond y term a ddewisiai ef i ddisgrifio'r ymdrech oedd "brwydr dros ryddid cenedlaethol".
Rwy'n ymwybodol iawn ei fod ef wedi penderfynu osgoi y term 'annibyniaeth' ar bob achlysur, a dadleuai ei bod yn amhosibl i unrhyw wlad fod yn gwbwl annibynnol yn y byd modern. Meddai yn 'Bywyd Cymro':
"I mi y mae annibyniaeth yn air anystwyth a braidd yn beryglus... Metha'r gair ag awgrymu cyd-ddibyniaeth y gwledydd".
Ond erbyn hyn, mae gelynion cenedlaetholdeb yn gwneud cymaint o 'issue' o duedd y Blaid i osgoi y gair 'annibyniaeth', ac mae ymateb gor-amddiffynol rhai yn y blaid yn fêl ar eu bysedd.
Dangosodd pôl piniwn diweddar y BBC fod 20% o bobl Cymru o blaid annibyniaeth. Mae hyn er gwaetha'r ffaith nad oes unrhyw blaid yng Nghymru heddiw yn dadlau'r achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, ac er gwaetha'r ffaith nad oes gan Gymru wasg gynhenid Gymreig, fel sydd yn yr Alban, a'n bod yn cael ein boddi dan don o Brydeindod gan y wasg unoliaethol yn ddyddiol.
Er hyn oll, mae 1 o bob 5 person yng Nghymru yn cefnogi annibyniaeth. Mae cyfle gwirioneddol i chwyddo'r gefnogaeth yma, os gallwn ni wneud yr achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, a rhoi y pwnc ar yr agenda gwleidyddol.
Mae llwyddiant yr SNP yn cael dylanwad mawr hefyd, ac maent hwy yn arddel y gair yn falch ac heb rithyn o agwedd hunan-amddiffynol rhai pleidwyr.
Yn gywir,
Hedd Gwynfor
Pontyberem
2.2.07
Cefnogwch y blog
http://annibyniaeth.blogspot.com/
29.1.07
Cymru Annibynnol Sosialaidd
Rwyf newydd ddod ar hyd i flog ar Annibyniaeth i Gymru sydd yn nodi fy mod i'n un o aelodau Plaid sydd yn blogio am annibynniaeth ac yn cefnogi'r cysyniad o annibyniaeth. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, Annibyniaeth yw un o amcanion Plaid a Cymru X- mudiad Ieuenctid y Blaid.
Yn fy marn i, dylem gofleidio'r drafodaeth ar annibynniaeth yn yr un modd ag y mai'r SNP yn ei wneud yn yr Alban- h.y mewn modd hyderus, gobeithiol. Mae Cymry fel pobl yn aml iawn yn llawer rhy negyddol am ein gallu fel Cenedl, ac mae e'n orfodol i ni fel Plaid ceisio meithrin hyder y bobl, ac ymarfer ein prif dadleuon o blaid Annibyniaeth yn llawer fwy aml.
Rwyf yn cefnogi annibynniaeth i Gymru oherwydd rwy'n credu dylsem cael yr hawl i lywodraeth ein hun fel gwlad, a'r hawl i ddewis i beidio dilyn penderfyniadau 'Prydeinig' tro ar ol tro. Rydym o dan meddiant Lloegr o hyd, a dylsem ni cael yr hawl i ddewis dyfodol o hunan lywodraeth o fewn Ewrop- i sefyll law yn llaw gyda gwledydd eraill.
Ar lefel personol, (a byddai nifer yn anghytuno, mae'n sicr!) rwyf yn cefnogi annibyniaeth oherwydd rwyf am gofleidio'r cyfle o greu Cymru gwell- Cymru sosialaidd, gweriniaethol. Ni fedrwn newid cymdeithas er gwell tra ein bod yn rhan o Undeb sydd yn amharu ar ein gallu i dyfu ac i ddatblygu fel gwlad.
Mae'n rhaid i ni gael trafodaeth sydd yn cyfleu balans o farn am annibyniaeth, ac sydd yn cynnwys dadleuon teg a ffeithiol yn hytrach nag ein bod yn dod yn rhan o ymgais negyddol Llafur Newydd o ofni pleidleiswyr am ddyfodol Cymru annibynnol-o ddiffyg adnoddau, o botensial methiannau, a'n anallu i rheoli ein gwlad ein hun.
Un peth sy'n sicr, byddai Cymru annibynnol yn medru arwain gwlad yn well o lawer na Tony Blair a'i debyg sydd wedi ein arwain mewn i rhyfel anghyfreithlon yn Irac, sydd yn rhan o broblem mawr y 'cash for peerages' ar hyn o bryd, ac sydd yn hybu polisiau adain de, Toriaidd.
Oes, mae angen mwy o ymchwil ar sut y byddai Cymru Annibynol yn edrych ac yn cael ei weithredu, ond mae'r posibiliad o ymchwil o'r fath yn gyffroes, a'r ymgyrch dros Gymru Annibynol yn gadarnhaol.
24.1.07
CymruX ac ymgeiswyr Plaid yn cefnogi annibyniaeth
Bethan Jenkins yw trefnydd ieuenctid Cymru X ar hyn o bryd ac sydd yn gyfrifol am y wefan, ac hi hefyd yw ymgeisydd 'Rhanbarth Gorllewin De Cymru' Plaid Cymru ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007.
Ond nid Bethan yw'r unig ymgeisydd sy'n hyrwyddo'r achos yn agored dros annibyniaeth i Gymru. Dyma rhai dolenni at wefannau'r goreuon:
David Thomas - Ymgeisydd Maldwyn Plaid Cymru
Sion Aled - Ymgeisydd Wrecsam Plaid CYmru
Mark Jones - Ymgeisydd Dyffryn Clwyd Plaid Cymru
22.1.07
Llyfrau ar annibyniaeth i Gymru a gwledydd bychain eraill
Pe Bai Cymru'n Rhydd - Gwynfor Evans.
Llyfr bychan, darllenadwy a handi iawn gan un o brif genedlaetholwyr Cymru, y diweddar Gwynfor Evans. Cyhoeddwyd hi ar drothwy annibyniaeth i wledydd y Baltig yn 1991 ac mae'n gyflwyniad gwych i'r hyn gallai Cymru fod ... a sut mae Prydeindod yn ein dal yn ôl. Dyma'r math o lyfr sydd mawr ei angen heddiw - trueni nad oes mwy o'r math yma ar gael. Hanfodol a darllenadwy.
The Breakdown of Nations - Leopold Kohr
Awstriad o ran genedigaeth ond Cymru-garwr a darlithydd yn y Brifysgol yn Aberystwyth yw Leopold Kohr (pam nad oes plac i'w hen dy yn Baker St yn y dre?).
Cyhoeddwyd y llyfr yn 1957 ac roedd o bell o flaen ei hamser. Mae'n rhoi annibyniaeth (a chyd-ddibyniaeth rhynwgladol) Cymru o fewn ei chyd-destun Ewropeaidd sef cyfandir o genhedloedd bychan. A dweud y gwir, mae'n syfrdannol mor debyg mae un o'r mapiau yn y llyfr i fap gwleidyddol o Ddwyrain Ewrop heddiw... ac mae cenhedloedd bychain Gorllewin Ewrop ar y trywydd iawn. Er fod y teitl braidd yn gamarweiniol - the breakdown of states dylse fo fod efallai - mae'n lyfr deallusol (ond hawdd ei ddarllen) gwerthfawr iawn. Mae'n dangos mor ffals yw dadleuon a moesoldeb y cenedlaetholwyr Prydeinig.
Masaryk
21.1.07
32% o blaid annibyniaeth.
Holwyd 500 o bobl dros y ffôn - 125 yr un yn y gogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain. Mae angen bod yn ofalus pan yn dadansoddi'r ffigyrau, gan nad ydi'r trawsdoriad poblogaeth a ddefnyddiwyd yn wyddonol iawn o'i gymharu ag un y BBC ddechrau'r wythnos.
Er hyn, mae'n ymddangos fel petai'r gefnogaeth i annibyniaeth yn codi, a hyn heb unrhyw ymgyrch cadarn gan unrhyw blaid neu fudiad yng Nghymru. Mae'r ffigwr yn draddodiadol wedi bod rhwng y 10-15% o blaid annibyniaeth, felly mae 20%-32% yn gynnydd mawr, mewn cyfnod cymharol fyr ers datganoli. Dangosodd arolwg yn 2003 mae dim ond 14% oedd o blaid annibyniaeth, ac ym 1999 roedd y ffigwr yn 9.9%.
19.1.07
Plaid Cymru
Cefnogwn yn llawn Adroddiad y Comisiwn Richard sy’n argymell cynyddu pwerau’r Cynulliad, i gynnwys pwerau deddfu cynradd ar faterion wedi eu datganoli – fel a geir yn Senedd yr Alban.
Fodd bynnag, ein nod cyfansoddiadol hir dymor ydi sicrhau annibyniaeth i Gymru yn Ewrop. Byddai cefnogaeth pobol Cymru drwy refferendwm, gan olygu statws lawn i Gymru oddi fewn i’r Gymuned Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig.
Mae Helen Mary Jones AC hefyd yn nodi'r dyhead yma'n glir ar ei gwefan:
Wedi etholiadau 2007, gallwn ddefnyddio'r Cynulliad Cenedlaethol, er ei wendidau, i wneud gwahaniaeth mawr i fywyd pobl Cymru. Gallwn weddnewid y Cynulliad i fod yn Senedd go iawn, a gallwn ddefnyddio'r Senedd fel llwyfan i adeiladu hyder pobl Cymru ar y llwybr i annibyniaeth.
Ond mae angen gwneud mwy na chrybwyll y mater ar wefannau'r Blaid yn unig. Mae angen bod yn agored a hyderus, bod yn rhagweithiol, a sicrhau fod annibyniaeth ar yr agenda wleidyddol yma yng Nghymru!
18.1.07
Rhoi y pwnc ar yr agenda wleidyddol!
Er hyn oll, mae 1 o bob 5 person yng Nghymru yn cefnogi annibyniaeth. Mae cyfle gwirioneddol i chwyddo'r gefnogaeth yma, os gallwn ni wneud yr achos yn gryf dros annibyniaeth i Gymru, a rhoi y pwnc ar yr agenda gwleidyddol.
Pwysleisiwyd y ffaith nad oes unrhyw ymgais wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gyflwyno'r achos i bobl Cymru yng nghanlyniadau chwiliad syml yn Google. Pan fydd rhywun yn chwilio am Cymru Annibynol , dim ond 13 canlyniad sydd. Y mwyafrif helaeth yn ymwneud a’r ‘Independent Wales Party, sydd erbyn hyn wedi marw, a cwpwl yn dangos ambell i drafodaeth difyr ar faes-e. Dyma gyfanswm y drafodaeth sy’n bodoli yn y Gymraeg ar y we-fyd-eang ar y mater.
A dyma gychwyn felly ar ehangu’r drafodaeth...