30.10.07
Prydain yn Marw
Gyda'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn edrych o ddifri ar EVEM (Pleidleisiau Seisnig i ddeddfau Seisnig) mae'r gath allan o'r cwd.
Maent wedi sylwi fod mwy i'w ennill trwy apeilio at Seisnigrwydd y Saeson yn hytrach nag at flanegellu bloedd arall o Brydeindod allan o gorff hanner marw. Bydd y deinamig dros Senedd i Loegr yn cynyddu ar raddfa uwch, a bydd y Cymry a'r Albanwyr yn edrych ar eu gilydd a meddwl, beth yw pwynt y busnes Prydeindod yma?
Gyda Dai Davies AS Blaenau Gwent yn dweud peth hollol gall, sef fod dim ond angen 22 sedd San Steffan ar Gymru os gawn ni fwy o bwer, mae echel gwleidyddiaeth Cymru yn symud at Gaerdydd.
Deng mlynedd wedi'r refferendwm a marwolaeth yr arch-Frit, George Thomas - Lord Tonypandy, mae'n dda cael meddwl y byddai'r hen grafwr yn troi yn ei fedd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi ei deall hi - mae Prydeindod yn marw, jyst mater o pa mor araf caiff y peiriant cynnal bywyd ei ddiffodd yw hi nawr a sdim ots beth fydd Hain yn dweud.
Mae cynlluniau Rifkind a'r Ceidwadwyr dros gael Grand Committee yn rhwym o fethu - unwaith fydd y Saeson wedi dechrau meddwl am ddatganoli i Loegr fel posibiliad realistig, ni fydda nhw mor ddiasgwrn cefn a'r Celtiaid, a derbyn rhywbeth mor wan.
Byddant am Senedd i Loegr yn weddol sydyn. Mae'r Ceidwadwyr wedi deall fod modd iddynt gael mwy o bleidleisiau a seddi a grym drwy gefnogi Seneddau cenedlaethol i'r Tair Gwlad na thrwy gadw Prydeindod. Gellid cael 3 senedd gyda Ceidwadwyr mewn grym ym Mhrydain yn hytrach nag un senedd heb yr un.'
9.10.07
Rhoi Cymru'n Gyntaf
Os oes un llyfr sydd angen i bob cenedlaetholwr (neu unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru i ddweud ei gwir) ei ddarllen, yna llyfr newydd Dr Richard Wyn Jones yw honno.
Mae 'Rhoi Cymru'n Gyntaf - Syniadaeth Plaid Cymru' yn wirioneddol wych. Rhwydd i'w ddarllen, wedi ei hysgrifennu'n ddifyr ac yn gryno. Llu o gymariaethau a chyflwyniadau i syniadaeth wleidyddol gyfoes ac mae'n rhoi cyd-destun i genedlaetholdeb Cymreig heb y rhagfarn sy'n dod o'r Chwith Brydeinig a theip Eric ty-haf-yng-nghymru Hobsbawm.
Gwnewch ffafr a'ch hun - prynwch gopi. Hanfodol! Gobeithio cawn ni gyfieithiad Saesneg yn fuan - mae'n gyfraniad gwerthfawr i astudiaeth o wleidyddiaeth a hanes Cymru ac i'n dealltwriaeth o Gymru heddiw.
Mae Dr Jones hefyd yn gwneud y sylw amlwg i unrhyw genedlaetholwr - sef fod pawb yn y bôn yn genedlaetholwyr - boed hynny yn genedlaetholwyr Cymreig neu Brydeinig.