Does dim dwywaith arni, rydym fel cenedl yn  wan, fel pobl yn ddibrofiad ac yn israddol i bawb arall yn y byd. Nid  ydym cystal â’r Saeson na chwaith yr Almaenwyr. Rydym yn aros yn ein  hunfan gan falio am bawb a phob peth a gwneud dim. Nid ydym yn ddigon da  yma yng Nghymru i benderfynu ar ein dyfodol. Nid oes gennym y talent i  wella’n gwlad, rhaid i ni felly ofyn am gymorth y dynion busnes hael o  ochr draw i glawdd Offa. Nid oes fawr o bwynt i ddefnyddio’r iaith sydd  yn ein cau ni allan, yn ein gosod ni ar wahân i bawb. Rydym yn byw yn  oes ein cyndeidiau ac o hyd yn edrych i’r gorffennol. 
Dyna  felly yw eich barn os nad ydych yn cefnogi annibyniaeth a llwyddiant i  Gymru yn fy marn i. Mae nifer o hyd yn mynnu bod Cymru yn rhy dlawd ac  yn wlad sydd rhy fechan i fod yn annibynnol, ac mae hyn yn fy  nghythruddo i siwt gymaint. Mae’n wir i ddweud bod Cymru’n dlawd a bod  yr economi’n wan, does dim dwywaith arni. Ond does neb yn cwestiynu pam.  Pam fod Cymru’n dlawd? Pam nad yw’r economi gystal â economi Lloegr  neu’r Alban?. Does neb yn gofyn y cwestiynau hyn serch hynny maent yn  gwneud yr un ddatganiad bod Cymru’n rhy dlawd fel petai’n ddu a gwyn, yn  anffodus nid yw bywyd yn ddu a gwyn.
(Daw'r Llun isod o Flickr, nid fi bia'r hawlfraint)
(Daw'r Llun isod o Flickr, nid fi bia'r hawlfraint)
Mae  ‘da fi ambell i ganfyddiad felly i geisio esbonio pam fod Cymru’n  dlawd. Mae Cymru’n gorfod cystadlu gyda Llundain (sef canolfan  cyfoethocaf ar ran economi Ewrop gyfan. Rhaid i economi Cymru cyd-fynd â  strategaethau, polisïau, trethi sydd yn gwmws yr un peth a Llundain a’r  de ddwyrain. Felly mae gyda chi un o rannau tlotaf Ewrop yn ceisio  cystadlu gyda’r man cyfoethocaf? Does dim amheuaeth felly taw hwn yw un o  brif problemau economi Cymru fel gwlad. Mae’r annhegwch hyn sydd yn  bodoli parthed buddsoddi economaidd a chynllunio economaidd Cymru yn ein  niweidio fel gwlad ac os na wnawn ni feddwl yn radical i gyfeiriad  hunan lywodraeth llawn ac annibyniaeth, mae arnaf ofn na fydd dim byd yn  newid. 
Byddai  nifer yn dweud mai yng Nghymru y mae’r polisïau hynny’n cael eu llunio.  Ac i ryw raddau mae hynny’n wir ond nad oes gan Lywodraeth Cymru’r  grymoedd angenrheidiol i wneud newid sydd o bwys. Hynny yw datganoli  treth corfforaethol. Treth incwm ac amryw o drethi eraill a all gwneud  gwahaniaeth enfawr. Wrth gydymffurfio ar un polisïau â de dwyrain Lloegr  felly mae Cymru’n cwympo ar eu hol hi unwaith yn rhagor. 
Byddai  eraill yn dweud bod Cymru yn cael ei sybsadeiddio gan Loegr am ein bod  ni’n rhy dlawd ac felly byddai Cymru annibynnol yn bendant yn chwalfa  dros nos. Fe es i ati felly ar twitter i ofyn am dystiolaeth gadarn a  oedd yn profi bod Cymru yn cael ei sybsadeiddio gan Loegr, a ie yn wir  doedd ‘na ddim un ffynhonnell yn gallu awgrymu hynny. Yn wir soniodd  rhai am GVA gan ddweud bod Cymru’n tan gyflawni ac felly ein bod yn rhy  dlawd. Ond beth nad yw’r GVA yn cymryd i mewn i ystyriaeth yw’r cyfoeth  sydd yn cael ei gynhyrchu oddi wrth adnoddau dynol Cymru. 
Diolch  i Peter Hain, does dim modd mesur cyfoeth ein hadnoddau dynol, fel y  seliwyd mewn cymal yn neddf llywodraeth Cymru 2006. Mae Cymru yn pwmpio  bilynnau o galwyni o ddŵr i Loegr yn flynyddol ond nid yw’n derbyn yr un  ceiniog amdano. Mae Cymru hefyd wedi anfon ceirt llawn llechi, glo,  dur, haearn, calch ac aur i Loegr draw heb weld yr un dimau goch yn dod  yn ôl. Nawr wrth osod yr ystadegau hynny sydd fan hyn  yn eu cyfystyr mae yma le i ystyried felly, y byddai Cymru’n dipyn yn  gyfoethocach os yn annibynnol gan yn sicr byddai’r elw yn dod yn ôl i  Gymru fel nad yw ar hyn o bryd. Ac felly mae edrych ar y fath ystadegau  yn gamarweiniol. 
Cyfeiriodd  aelod arall i mi, bod Cymru yn derbyn £112 o bunnoedd am bob £100 yn  mae’n anfon o arian trethi i SanSteffan. Ydy hyn felly yn profi bod  Cymru’n rhy dlawd? Nac ydy. Byddai Cymru annibynnol yn wlad hollol  wahanol gyda blaenoriaethau gwahanol. Ac felly nid yw’n deg na chwaith  yn briodol cymharu tebyg wrth debyg. Gallwn gymharu methiannau Cymru  nawr ag methiant Prydeindod yn sicr gan dim ond felly yr ydym yn gwybod.  Ond na allwn gymharu Cymru annibynnol â'r Cymru sydd ohoni nawr gan  fydd popeth mor wahanol. 
Yn  wir mae dyddiau Prydeindod wedi dod i derfyn, ac mae’r byd wedi symud  ymlaen ers oes imperialaidd ymerodraethol y frenhines Victoria. Mae’n  bryd i Gymru hefyd symud ymlaen. Fel gwlad rydym wedi cael ein  hesgeuluso, ein hanwybyddu a’n gwthio i’r neilltu gogyfer dibenion pobl  eraill. Rydym hefyd wedi gosod anghenion y rheiny sydd yn fwy ffodus o  blaen ein hanghenion ni. Ni fydd anghenion Cymru byth yn flaenoriaeth i  SanSteffan, ac mae llais Cymru o fewn y senedd yn prysur gwanhau’n fwy.  Gwaethygu bydd pethau os yn aros gyda’r undeb nid gwella. 
I  wyrdroi’r gosodiad bod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol. Hoffwn i  hefyd ddadlau’n wahanol. Mae Cymru’n wlad gyfoethog iawn. Ond nid ydym  yn gweld gwerth na datblygiad yn y meysydd a all fod o fudd i ni. Ein  hadnoddau dynol hynny yw. Fe soniwyd yn y papurau yn ddiweddar bod na  rhagdybio i nwy Shale gwerth hyd at 70 biliwn a mwy o dan haen lofaol de  Cymru, os yn wir ac nad yw Cymru’n annibynnol pwy chi’n credu bydd yn  medi ffrwyth y canfyddiad? Am wlad fach mae gan Gymru gwerth biliynau o  adnoddau dynol y gallwn eu datblygu. Y glo (88% ar ôl) Y llechi, Nwy  Shale, dwr, dur a nifer fwy. Beth sydd gan wledydd megis yr Iseldiroedd a  Ffrainc parthed adnoddau dynol fel sydd gennym ni yma yng Nghymru?  
Mae  angen i ni fel gwlad magu’r hyder i wybod bod y gallu yno gennym i  lwyddo. I gyfeirio yn ôl at y paragraff cyntaf, nid ydym yn bobl  israddol, mae gennym ni’r un gallu a phob gwlad arall yn y byd. Rydym i  gyd oll yn Gymry falch a byddwn i’n tybio bod mwyafrif yn cefnogi  annibyniaeth ar sail eu gwladgarwch ond yn ofni’r goblygiadau o achos  clebar yr unoliaethwyr. 
Yr  hyn sydd gen i ddweud wrthych chi yw, a dymunwch i Gymru fod yn frawd  bach dinod mewn ‘undeb’ nad yw’n unedig? A ydych yn ddigon hapus i  barhau i weld Cymru’n colli cyfleodd o hyd ac o hyd? A ydych yn hapus i  gydnabod ein bod ni fel gwlad yn amherthnasol ac yn amhwysig felly? Dwi  ddim a dwi’n credu ei fod e’n hen bryd i ni fel gwlad gymryd yr awenau  a’r cyfrifoldeb dros ein tynged ni’n hunain. Rydym yn ddigon parod i  bwyntio bys i bob cyfeiriad gan feio'r byd ar betws cyn cwympo ar ein  bai. Gydag annibyniaeth daw cyfrifoldeb a gyda chyfrifoldeb daw  canlyniadau. Heb y cyfrifoldeb hwnnw mae arnaf ofn bydd Cymru wastad yn  rhedeg mewn hanner marathon yn hytrach na marathon llawn y byd real. 
Yn  wir mae’r hyn dyweda bobl am ‘ y llwybr llithrig i annibyniaeth’ yn  hollol anghywir. Rydym eisoes mewn llwybr llithrig, yn llithro mewn pob  tabl economaidd, yn llithro ar ran ein diwylliant, ein hiaith a’n llais  ar lwyfan ryngwladol y byd. I wyrdroi’r gosodiad hwnnw hoffwn i weld  Cymru’n dringo’r llwybr uchelgeisiol hynny at annibyniaeth a derbyn dim  llai. Rydym yn Gymry a chyn gystal ag unrhyw bobloedd arall a bodola yn  ein byd. 
MEDDYLIWCH DDWYWAITH - CEFNOGWCH ANNIBYNIAETH I GYMRU  
 

 
