14.3.07

Byddin Cymru

Mewn erthygl yn y rhifyn ddiweddaraf o'r cylchgrawn Cambria mae Siôn Jobbins yn mynd i'r afael â cwestiwn a holwyd gan David Williams ar raglen Dragon's Eye i Bethan Jenkins, ymgeisydd dros Blaid Cymru.

Holodd Williams, 'sawl llong awyren (aircraft carrier) fyddai gan Gymru annibynnol?' Yn ei erthygl mae Jobbins yn ceisio amlinellu sut fath o luoedd arfog fyddai gan Gymru petai hi'n wlad annibynnol.... ac yn ateb cwestiwn David Williams.

Nid yw'r erthygl ar-lein, ond gellir prynu Cambria mewn siopau llyfrau
Cymraeg a mewn siopau llyfrau eraill gwerth eu halen!

2 comments:

Anonymous said...

Am resymau hollol ymarferol fe fyddai rol byddin Cymru annibynnol yn gyfyngedig i amddiffyn ein tiriogaeth, fel sydd yr achos yn Iwerddon, ac dim ond wrth gymryd rhan mewn ymgyrchoedd y CU byddai ein milwyr yn cael profiad o ryfel.

Aled Wyn said...

A dyna beth ddylai rol byddin fod, i amddiffyn y tiriogaeth, ac nid fod yn ymosodgar.