Dyna ni, dyw'r peth ddim drosodd eto wrth gwrs - ni'n dal i aros i'r athem gael ei chanu ar ddiwedd y gyngerdd, ond mae penod olaf Prydeindod wedi cychwyn.
Gyda'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn edrych o ddifri ar EVEM (Pleidleisiau Seisnig i ddeddfau Seisnig) mae'r gath allan o'r cwd.
Maent wedi sylwi fod mwy i'w ennill trwy apeilio at Seisnigrwydd y Saeson yn hytrach nag at flanegellu bloedd arall o Brydeindod allan o gorff hanner marw. Bydd y deinamig dros Senedd i Loegr yn cynyddu ar raddfa uwch, a bydd y Cymry a'r Albanwyr yn edrych ar eu gilydd a meddwl, beth yw pwynt y busnes Prydeindod yma?
Gyda Dai Davies AS Blaenau Gwent yn dweud peth hollol gall, sef fod dim ond angen 22 sedd San Steffan ar Gymru os gawn ni fwy o bwer, mae echel gwleidyddiaeth Cymru yn symud at Gaerdydd.
Deng mlynedd wedi'r refferendwm a marwolaeth yr arch-Frit, George Thomas - Lord Tonypandy, mae'n dda cael meddwl y byddai'r hen grafwr yn troi yn ei fedd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi ei deall hi - mae Prydeindod yn marw, jyst mater o pa mor araf caiff y peiriant cynnal bywyd ei ddiffodd yw hi nawr a sdim ots beth fydd Hain yn dweud.
Mae cynlluniau Rifkind a'r Ceidwadwyr dros gael Grand Committee yn rhwym o fethu - unwaith fydd y Saeson wedi dechrau meddwl am ddatganoli i Loegr fel posibiliad realistig, ni fydda nhw mor ddiasgwrn cefn a'r Celtiaid, a derbyn rhywbeth mor wan.
Byddant am Senedd i Loegr yn weddol sydyn. Mae'r Ceidwadwyr wedi deall fod modd iddynt gael mwy o bleidleisiau a seddi a grym drwy gefnogi Seneddau cenedlaethol i'r Tair Gwlad na thrwy gadw Prydeindod. Gellid cael 3 senedd gyda Ceidwadwyr mewn grym ym Mhrydain yn hytrach nag un senedd heb yr un.'
No comments:
Post a Comment