Gan mai ystyr ANNIBYNIAETH yn y cyd-destun hwn yw y byddai Cymru yn aelod llawn o'r Gymuned Ewropeaidd, ac yn aelod llawn o'r Cenhedloedd Unedig, rwy'n berffaith hapus mai dyna yw nod Plaid Cymru.
Pobol Cymru fydd yn penderfynu hynny yn y pen draw, drwy refferendwm, ac fel hynny y dylai fod. Yn y cyfamser, mae gennym ni yng Nghymru lawer o waith i'w wneud i gyrraedd hyd yn oed y fan lle mae'r Alban heddiw. Sefydlu Senedd gyflawn gyda phwerau deddfu cynradd yw'r nod pwysig nesaf i'w gyflawni. Does dim pwrpas camarwain pobol i feddwl fod "annibyniaeth" ar gynnig yn yr etholiad ym mis Mai. (Ac yn sicr does dim pwrpas inni ddadlau ymysg ein gilydd am ystyr geiriau!)
Ein gwaith ni ym Mhlaid Cymru yw adeiladu hyder ein pobol gam wrth gam, a sefydlu Senedd ddeddfwriaethol yw'r cam holl-bwysig ar y daith yr ydym wedi ei throedio ers 1925. Yr hyn sy'n rhoi gwir foddhad imi yw gweld agweddau pobol - a phleidiau - Cymru yn newid o flwyddyn i flwyddyn. A phan ddaw hi'n amser i gynnal refferendwm ar annibyniaeth, does gen i ddim amheuaeth o gwbwl na fydd pobol Cymru yn pleidleisio yn gadarnhaol o'i blaid.
O ran y gair ei hunan, mae gen i'r un teimladau cymysg a fynegwyd gan Gwynfor Evans. Mewn gwirionedd, does yna'r un wlad annibynnol yn y byd. Yr ydym oll yn gyd-ddibynnol, ac mewn partneriaethau o wahanol fathau. Y peth sylfaenol bwysig yw ein bod yn rhydd i benderfynu ar ba delerau yr awn i bartneriaeth gyda gwledydd eraill. Ac i wneud hynny, rhaid bod, a defnyddio'r term technegol, yn "annibynnol". Ond i bwrpas fy nghaneuon, byddaf fi'n dal i ddefnyddio'r gair yr wyf wedi ei ddefnyddio erioed, sef "RHYDDID"!
Rhagom i'r Gymru Rydd!
Dafydd Iwan
Llywydd Plaid Cymru
No comments:
Post a Comment