21.5.07

Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi ehangu ar ei weledigaeth o annibyniaeth i'r Alban trwy alw am dîm Olympaidd i'r Alban.

Nawr yw'r amser i ddechrau ymgyrchu dros dim Olympaidd i Gymru erbyn 2012. Mae'r SNP yn dal dychymyg pobl a bydd hyn yn dangos mor llesg a dibwrpas yw Llafur. Llywodraethu'n gall ac yn deg yn y Cynulliad ond cofio pwysigrwydd symboliaeth a chreu naratif genedlaethol gref - fel 'na mae lladd y Blaid Lafur.

Cefnogwn dîm Olympaidd i Gymru erbyn y flwyddyn 2012.

6.4.07

Y Blaid Werdd o blaid annibyniaeth i Gymru

Cefais ymateb calonogol iawn gan y Blaid Werdd yng Nghymru ynglyn â'i pholisi ar annibyniaeth heddiw. Wnes i gysylltu gyda'r blaid rhai wythnosau yn ôl i holi os oedd y polisi'r un peth ag un y Blaid Werdd yn yr Alban.

Rwy'n cydweld gyda Rhodri Griffiths o'r Blaid Werdd na ddylai unrhyw 1 plaid wleidyddol gael monopoli ar annibyniaeth. Dwi hefyd yn cytuno y byddai'n syniad gwych sefydlu platfform amlbleidiol gyda Phlaid Cymru ac unrhyw wleidyddion annibynnol eraill mewn Llywodraeth leol neu yn y Cynulliad, ac unrhyw aelodau o'r pleidiau gwleidyddol Prydeinig sydd yn cefnogi annibyniaeth. Dylid hefyd wahodd unrhyw fudiadau neu gymdeithasau yng Nghymru sy'n cefnogi annibyniaeth i fod yn rhan o'r drafodaeth.

Dyma beth oedd gan Rhodri Griffiths i'w ddweud:

Rydym yn y Blaid Werdd o blaid annibyniaeth i Gymru, ond yn bersonol, mae'n well gennyf y gair "ymreolaeth" neu "autonomy" yn hytrach na "annibyniaeth".

Mae'n wir fod Plaid Werdd yr Alban yn cefnogi and yn ymgyrchu dros annibyniaeth. Yn wir roedd Mark Ballard MSP wedi helpu sefydlu y "Scottish Independence Convention" gyda'r Blaid Sosialydd yr Alban yn ddiweddar. Cafodd Mark tipyn o jobyn i berswadio'r SNP i ymuno a'r clymblaid yma dros annibyniaeth! Mae tueddiad gyda Plaid Cymru ac yr SNP i feddwl fod ganddynt monopoli ar annibyniaeth... Hoffwn i wahodd Plaid Cymru - ac efallai Forward Wales/Cymru Ymlaen, os maent dal yn fodoli - i ymuno a ni mewn clymblaid debyg yma yng Nghymru.

Mae'n wir hefyd fod - ar hyn o bryd - mae Plaid Werdd Cymru "yn swyddogol" yn rhanbarth o'r Blaid Werdd Cymru a Lloegr.Yn yr Alban mae'r Blaid Werdd yn hollol annibynnol. Dwi ddim yn hapus iawn gyda'r sefyllfa yma ond eto mae rhaid inni fod yn bragmateg - heb help ariannol oddiwrth cefnogwyr yn Lloegr byddwn llawer tlotach yma. Gobeithio, gyda llwyddiant yn etholiad y Cynulliad, bydd twf sylweddol yn ein aelodaeth ac well siawns inni troi'n annibynnol o'r safbwynt ariannol. (Cofiwch fod Plaid Werdd Cymru yn rhan o mudiad byd-eang.) Yn Ulster cafodd y Blaid Werdd llawer o help gan Comhatlas Glas - Plaid Werdd yn y Gweriniaeth- yn ymgyrch llwyddiannus Brian Wilson yn ddiweddar.

Mae rhaid i fi bwysleisio ein bod ni ym Mhlaid Werdd Cymru yn hollol annibynnol lle mae bolisiau yn y cwestion. Mae gyda ni ein cynhadleddau ac ein maniffesto - sy'n cael ei drafftio gan aelodau yma yng Nghymru.

Gyda'r llaw, byddwn yn lawnsio ein maniffesto yng Nghaerdydd wythnos nesaf (Dydd Iau yn yr Eglwys Norweieg am 9.30). Croeso mawr i chi i ymuno a ni!

Rhodri Griffiths
Ymgeisydd rhif 1 Plaid Werdd Cymru ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru.

31.3.07

Amserlen Annibyniaeth

Sylwadau call iawn gan Aled G Job ar fforwm drafod maes-e.com heddiw. Dyma'r hyn oedd ganddo i'w ddweud yn dilyn stori yn Golwg yr wythnos hon:

Da gweld yn Golwg yr wythnos hon fod Alun Ffred, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon, yn awgrymu ei bod hi'n bryd creu amserlen ar gyfer annibyniaeth i Gymru. Hynny yw esbonio beth fyddai'r camau tuag at hynny a beth fyddai'r camau hynny yn ei olygu yn ymarferol.

O'r diwedd! dwi di credu ers hydia bod angen gwerthu annibyniaeth mewn modd llawer mwy cadarn a chadarnhaol. Bron nad ydi o wedi bod " the love that dare not speak it's name" ym meddylfryd y Blaid dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny nid yn unig wedi bod yn fel ar fysedd y wasg a'i gelynion gwleidyddol, ond wedi cyfleu'r argraff i'r etholwyr bod yna rhywbeth anonest a shifty iawn yn perthyn i'r blaid.

Mae angen tanlinellu realiti pethau fel ag y mae wrth gael ein rheoli o Lundain: lefelau GDP ymhlith yr isaf yn Ewrop, lefelau iechyd ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, diffyg buddsoddi affwysol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gor-ddibyniaeth enfawr ar y sector gyhoeddus, problemau tai fforddiadwy a digartrefedd,diffyg cyfranogiad go iawn mewn bywyd cyhoeddus, cael ein tynnu i mewn i ryfeloedd anghyfreithlon a gorfod bod yn rhan o wariant gwallgof o £50 biliwn er mwyn adnewyddu Trident, mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd.

Yna, mae angen dadlau'n eofn mai annibyniaeth fyddai'n gwella hynny drwy alluogi'r canlynol i ddigwydd dros gyfnod o amser, er enghraifft:
  • rheolaeth dros ein dwr a'n holl adnoddau naturiol- datblygu Cymru fel arloeswr rhyngwladol mewn ynni gwyrdd
  • Addasu'r system drethi er mwyn ffafrio cwmniau bychain teuluol
  • Datblygu sgiliau entrepeneuraidd ymhlith plant o oed cynnar iawn er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu gweithlu fydd eisiau cychwyn busnesau eu hunain a llenwi'r gofod hwnnw sy'n bodoli yn y sector breifat yng Nghymru ar hyn o bryd
  • Arbed arian wrth wario llai ar amddiffyn- Prydain yn gwario 2.5% o'i chylideb ar amddiffyn- siawns y galla ni ddilyn esiampl Iwerddon sydd mond yn gwario 0.7% o'i chyllideb ar amddiffyn. Yn gysylltiedig a hyn, bydd angen esbonio sut fath o lu amddiffyn fyddai'n datblygu yma.
  • Datblygu marchnadoedd newydd gyda gwledydd bychain cyffelyb. E.E Mae'r SNP yn son am greu "The Arc of Prosperity" drwy gydweithio ag Iwerddon, Norwy, Gwlad yr Ia, a Denmarc, ac fe allai Cymru hefyd fod yn rhan o symudiad felly.
Mae'r dadleuon i gyd o'n plaid. Ond, wrth gwrs mae angen arweinydd charismataidd, cadarn ac eofn i'w cyflwyno. Pryd mae Adam Price yn dod nol o Lundain?

20.3.07

Creu'r Agenda

Ar ein chwaer blog Saesneg, mae Johnny Roberts yn gwneud y pwynt pwysig rhaid gosod annibyniaeth ar yr agenda. Rwy'n cytuno yn llwyr.

Un o'r pethau sydd wedi fy siomi ar yr ochor orau am wleidyddiaeth ein gwlad yn ystod y cyfnod diweddar yw'r ffordd mae'r canran o'r Cymry sydd yn cefnogi annibyniaeth wedi cynyddu, er gwaetha'r ffaith na fu annibyniaeth ar yr agenda. Cyn refferendwm 1997 roedd pôl gan y BBC yn dangos 11% o'r bobl yn cefnogi annibyniaeth. Yn ôl adroddiad Richard yn 2003 roedd y cyfanswm wedi cynyddu i 14%. Yn ôl pôl arall gan y BBC ym mis Ionawr eleni roedd y ffigwr wedi cynyddu eto i 20%. Nis allwn ond dychmygu be fyddai'r canran o gefnogaeth pe byddai annibyniaeth wedi bod yn ganolog i'r agenda gwleidyddol yn ystod yn ddeng mlynedd diwethaf.

Yn ei erthygl mae Johnny yn awgrymu mae da o beth byddid i'r Blaid gosod annibyniaeth yn ganolog ar yr agenda gwleidyddol - rwy'n cytuno'n llwyr, ond eto yn amau os digwyddith y fath beth, yn y tymor byr o leiaf. Nid beirniadu'r Blaid yw gwneud y fath sylw ond ymateb i wirioneddau gwleidyddol ein dydd.

Gyda chymaint i'w ddweud am bethau "bara menyn" megis iechyd, addysg a threfn gyhoeddus yn etholiadau'r cynulliad; ffolineb byddid i unrhyw blaid wleidyddol troi oddi wrth y pynciau hyn er mwyn trafod rhywbeth nad yw, ysywaeth, ar yr agenda cyfredol.

Yn y dyddiau sydd ohoni prin fod pleidiau gwleidyddol yn gyfrifol am osod pwnc newydd ar yr agenda. Grwpiau ffocws sydd yn gosod yr agenda a grwpiau pwyso sydd yn gosod y ffocws. Mae'n wirionedd na ellir dadlau ag ef mae'r rheswm pam bod pynciau glas mor bwysig i'r holl bleidiau yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol yw oherwydd bod y grwpiau pwyso ar lesni wedi effeithio, yn llwyddiannus iawn, ar y grwpiau ffocws.

Yr unig fodd i osod annibyniaeth ar agenda gwleidyddol Cymru yw trwy i'r rhai ohonom sy'n credu ei fod yn bwnc pwysig ei osod yno trwy ffurfio grŵp pwyso all bleidiol ein hunnain.

Ni fydd creu'r fath grŵp yn dasg hawdd. Ceisiwyd creu grwpiau tebyg yn y gorffennol ond eu bod wedi eu boddi o dan ddylanwad ochor "orffwyll" cenedlaetholdeb. Bydd nifer o gefnogwyr y Blaid yn gweld bodolaeth grŵp o'r fath yn ymosodiad ar y Blaid, tra bydd cefnogwyr annibyniaeth yn y pleidiau eraill (mae'r fath bobl yn bod) yn gweld ymgyrch o'i fath yn ymgyrch o blaid y Blaid. Mae nifer o genedlaetholwyr yn amlwg mewn ymgyrchoedd eraill megis CyIG, CND, Greenpeace ac ati, bydd ceisio cefnogi a chynnal Ymgyrch Dros Annibyniaeth hefyd yn ormod o faich iddynt. Er hynny credaf mai'r unig fordd ymarferol o osod annibyniaeth ar agenda gwleidyddol Cymru yw trwy ffurfio Ymgyrch Dros Annibyniaeth all bleidiol. Byddwn yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau gan gefnogwyr y blog yma ar sut i ffurfio ymgyrch, effeithiol, o'r fath.

14.3.07

Byddin Cymru

Mewn erthygl yn y rhifyn ddiweddaraf o'r cylchgrawn Cambria mae Siôn Jobbins yn mynd i'r afael â cwestiwn a holwyd gan David Williams ar raglen Dragon's Eye i Bethan Jenkins, ymgeisydd dros Blaid Cymru.

Holodd Williams, 'sawl llong awyren (aircraft carrier) fyddai gan Gymru annibynnol?' Yn ei erthygl mae Jobbins yn ceisio amlinellu sut fath o luoedd arfog fyddai gan Gymru petai hi'n wlad annibynnol.... ac yn ateb cwestiwn David Williams.

Nid yw'r erthygl ar-lein, ond gellir prynu Cambria mewn siopau llyfrau
Cymraeg a mewn siopau llyfrau eraill gwerth eu halen!

28.2.07

Dolenni Diddorol - Yr achos dros Annibyniaeth i'r Alban

Dyma ddolenni diddorol a gafodd eu postio gan Rhys ar faes-e:

Dadleuon da yma dros annibynniaeth i'r Alban, y rhan fwyaf yn berthnasol i Gymru hefyd.

A Case for Independence Part 1 (Yr economi)
A Case for Independence Part 2 (Lleoliad grym)
A Case for Independence Part 3 (Ymdeimlad + perthynas â Lloegr)

12.2.07

Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd - Gwenllian Lansdown

Datblygu o fod ym mer fy esgyrn ac yn rhan o’m greddf naturiol i fod yn egwyddor gwleidyddol a wnaeth fy ymrwymiad i annibyniaeth. Gyda’r newyddion fod traean o boblogaeth Cymru bellach yn cefnogi annibyniaeth, cynyddu fydd y momentwm ar gyfer trafodaeth gyhoeddus am rinweddau annibyniaeth a hynny, wrth reswm, yng nghyd-destun buddugoliaeth debygol yr SNP yn etholiadau Seneddol yr Alban ym mis Mai.

Mae’r tebygrwydd hynny hefyd yn egluro honiadau bondigrybwyll, sarhaus a rhagfarnllyd Peter Hain ynglyn ag annibyniaeth. Coleddu Prydeindod, fel pe bai’n rhyw endid niwtral, yw’r ffasiwn ddiweddaraf ymysg gwleidyddion Llafur Newydd. Ond mae Prydeindod fel emblem, fel cyfundrefn ac fel cysyniad yn prysur edwino. Fel hynny y dylai pethau fod. Mae’r cysyniad o Brydeindod wedi ei seilio ar berthynas anghymesur ac anheg. Mae dadleuon Hain yn amlwg yn ddibynnol ar y syniad fod annibyniaeth yn gyfystyr â thorri ffwrdd, arwahanrwydd neu gulni gwleidyddol. Ond anwiredd yw hynny. Mae pob gwlad annibynol wedi ei phlethu mewn perthynas gyda chenhedloedd annibynol eraill boed hynny’n gymdeithasol, economaidd neu’n hanesyddol. O’r herwydd megir perthynas o gyd-ddibyniaeth ond honno’n gyd-ddibyniaeth wirfoddol.

Rhaid magu perthynas iach a chyfartal rhwng Cymru a gweddill y byd gan roi llais cryf i Gymru, fel cenhedloedd llai eraill, ar faterion rhyngwladol o bwys. Byddai annibyniaeth yn ein rhyddhau o hualau seicolegol canrifoedd o orthrwm gwleidyddol a fyddai’n ein galluogi i ryddhau ein potensial fel cymdeithas ac yn adfer ein synnwyr o hunan-barch.

Yn y cyfamser, i Blaid Cymru, mae etholiad hollbwysig ar y gorwel – rhan o’n neges ni fydd darbwyllo pobl Cymru mai diwedd taith gyfansoddiadol a hanesyddol yw annibyniaeth sy’n ddibynnol ar ewyllys y genedl. Yn y cyfamser, rhaid gofyn sut yn union y gellir cyfiawnhau ein dibyniaeth bresennol mewn oes ôl-drefedigaethol o ryddid? Pam fod yn rhaid i ni amddiffyn y ‘status quo’? Pam fod yn rhaid i ni hepgor ein hunan-barch?

Gwenllian Lansdown,
Ymgeisydd Plaid Cymru, Rhanbarth Canol De Cymru

11.2.07

Adeiladu hyder ein pobol gam wrth gam - Dafydd Iwan

Gan mai ystyr ANNIBYNIAETH yn y cyd-destun hwn yw y byddai Cymru yn aelod llawn o'r Gymuned Ewropeaidd, ac yn aelod llawn o'r Cenhedloedd Unedig, rwy'n berffaith hapus mai dyna yw nod Plaid Cymru.

Pobol Cymru fydd yn penderfynu hynny yn y pen draw, drwy refferendwm, ac fel hynny y dylai fod. Yn y cyfamser, mae gennym ni yng Nghymru lawer o waith i'w wneud i gyrraedd hyd yn oed y fan lle mae'r Alban heddiw. Sefydlu Senedd gyflawn gyda phwerau deddfu cynradd yw'r nod pwysig nesaf i'w gyflawni. Does dim pwrpas camarwain pobol i feddwl fod "annibyniaeth" ar gynnig yn yr etholiad ym mis Mai. (Ac yn sicr does dim pwrpas inni ddadlau ymysg ein gilydd am ystyr geiriau!)

Ein gwaith ni ym Mhlaid Cymru yw adeiladu hyder ein pobol gam wrth gam, a sefydlu Senedd ddeddfwriaethol yw'r cam holl-bwysig ar y daith yr ydym wedi ei throedio ers 1925. Yr hyn sy'n rhoi gwir foddhad imi yw gweld agweddau pobol - a phleidiau - Cymru yn newid o flwyddyn i flwyddyn. A phan ddaw hi'n amser i gynnal refferendwm ar annibyniaeth, does gen i ddim amheuaeth o gwbwl na fydd pobol Cymru yn pleidleisio yn gadarnhaol o'i blaid.

O ran y gair ei hunan, mae gen i'r un teimladau cymysg a fynegwyd gan Gwynfor Evans. Mewn gwirionedd, does yna'r un wlad annibynnol yn y byd. Yr ydym oll yn gyd-ddibynnol, ac mewn partneriaethau o wahanol fathau. Y peth sylfaenol bwysig yw ein bod yn rhydd i benderfynu ar ba delerau yr awn i bartneriaeth gyda gwledydd eraill. Ac i wneud hynny, rhaid bod, a defnyddio'r term technegol, yn "annibynnol". Ond i bwrpas fy nghaneuon, byddaf fi'n dal i ddefnyddio'r gair yr wyf wedi ei ddefnyddio erioed, sef "RHYDDID"!

Rhagom i'r Gymru Rydd!

Dafydd Iwan

Llywydd Plaid Cymru

9.2.07

Annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd

Heddiw mae Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru ac arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn esbonio pam mai annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd yw nôd cyfansoddiadol tymor hir Plaid Cymru.

Rwy'n croesawu'n gynnes y cyfle hwn i gymryd rhan yn y drafodaeth ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Mae anghenion Cymru fel cenedl yn cael eu trafod fel nas gwelwyd erioed o'r blaen wrth i baratoadau at yr Etholiad Cyffredinol Cymreig ym mis Mai fynd yn ei blaen. Mae datganoli, hyd yn oed yn ei ffurf bresennol, yn sicrhau cyfle i drafod blaenoriaethau Cymru mewn cyd-destun Cymreig, ond mae'r pwerau yn annigonol, ac arweiniad Rhodri Morgan a'i weinyddiaeth Lafur yn ofidus.

Fel plaid sydd o'r farn fod Cymru fel cenedl angen pob pŵer posib i ffynnu, annibyniaeth oddi fewn i'r Undeb Ewropeaidd yw ein nod cyfansoddiadol tymor hir. Yn ogystal a gwella bywydau pobl Cymru, mae'n iawn i Gymru ymuno â'r gymuned fyd-eang o genhedloedd.

Gam wrth gam fu ein hagwedd erioed tuag at newid cyfansoddiadol, a gan mae'r bobl sy'n sofran, bydd refferendwm ar bob newid sylweddol. Gan bobl Cymru mae'r dweud olaf ar y mater.

Ein bwriad dros y bedair blynedd nesaf yw sicrhau refferendwm ar Senedd go iawn, fel bod ganddom yr hawl i ddeddfu ac amrywio trethi heb orfod gofyn caniatâd San Steffan. Heriwn y pleidiau gwleidyddol eraill i ymuno yn yr ymgyrch.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol eleni, bydd pleidiau Llundain yn chwarae gem wleidyddol gydag annibyniaeth ac yn ceisio rhannu'r mudiad cenedlaethol. Mae ein nod yn glir, ond bydd ein gwrthwynebwyr yn ceisio ei ddefnyddio yn ein herbyn. Mae'r etholiad hwn yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth go iawn a chynorthwyo i drawsnewid Cymru.

Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd â hyder yng Nghymru a phobl Cymru. Mae pleidiau Llundain yn honni fod Cymru yn rhy fach ac anarwyddocaol i gael dylanwad ar y llwyfan rhyngwladol. Mae dilorni Cymru yn y fath fodd yn nawddoglyd a sarhaus. Rhaid magu hyder ein cenedl a chynnig newid er gwell i bobl Cymru. Gyda'n gilydd gallwn gyrraedd y nod.

Mae Ieuan Wyn Jones yn Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, yn arweinydd Plaid Cymru ac yn arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol.